Ein hymagwedd
Stiwdio dylunio boutique annibynol ydym, wedi ein lleoli yng Nghaerdydd ac yn arbenigo mewn datblygu brandiau.
Sefydlwyd Kutchibok gydar uchelgais i greu dylunio cain a chrefftus syn gweithredun llwyddiannus ar draws pob maes, argraffu, digidol, ac amgylcheddol.
Mae cydweithio agos a chyson gydan cleientiaid yn ganolog in proses ac yn sicrhau ateb creadigol y gallwn fod yn falch ohono.
Llen briodol rydym yn medru dethol yn ofalus o rwydwaith o unigolion talentog, gan gynnwys ffotograffwyr, ysgrifenwyr copi a darlunwyr. Galluoga hyn i ni fedru gweithio ar brosiectau mawr a fyddai efallain gofyn am fwy nag un ddisgyblaeth greadigol.
Rydym yn rheoli pob prosiect yn llawn o’r cysyniad cyntaf i’r cyflwyniad olaf, er mwyn sicrhau’r safon uchaf posib a boddhad y cleient.
Rydym wedi ennill sawl gwobr yn genedlaethol ac yn rhyngwladol, er bod ein prif ffocws bob amser ar sicrhau canlyniad llwyddiannus i bob comisiwn rydym yn ei dderbyn.
Rydym yn cynnig ystod eang o wasanaethau creadigol, yn cynnwys:
– Brandio
– Dylunio Gwefan
– Hunaniaeth Weledol
– Dylunio Print
– Pecynnu
– Dylunio Digidol
– Cyfarwyddyd Celf
– Arwyddion
– Cynllunio Arddangosfeydd
Cydnabyddiaeth
The Drum, RAR & MiNetwork
Mlady Obal European Award
Cream Awards
Brigl & Bergmeister Golden Label
Cardiff Design Festival
Bilingual Design Awards
Design: Paper
Rockport
64 GB
Victionary
Letterhead + Logo Design 12
Rockport
Logology 2
Victionary
Branding Element Logos
Sendpoints
Los Logos
Die Gestalten Verlag, Berlin
Magic Branding
Designerbooks