Myddfai
Maes
Gwobrau
Menter gymdeithasol yw Myddfai, wedi ei seilio yng Nghaerfyrddin a chanddi ddiwylliant cwmni cryf, yn creu ystod eang o nwyddau ymolchi moethus o ffynhonnellau moesegol. Maent yn credu’n gryf mewn cynaladwyedd a’u nod yw darparu cyflogaeth a chyfleoedd gwirfoddoli o fewn y gymuned leol. Defnyddir yr elw ar gyfer adfywio gwledig o fewn yr ardal leol, ac maent yn darparu profiad gwaith ar gyfer oedolion ag anghenion arbennig.
Gofynwyd i Kutchibok ailfrandio’r cwmni ac adlewyrchu’n well y gwerthoedd maent wedi eu datblygu dros y chwe mlynedd diwethaf. Fe ddylunion ni labeli potel a syniad pecynnu newydd i arddangos ystod eang o nwyddau bath a chorff i’r farchnad gwestai moethus.
“Fe benderfynon ni ail-ddylunio ein ystod o nwyddau ymolchi gyda labeli newydd a strategaeth marchnata newydd. Fe chwilion ni am gwmni dylunio proffesiynol a darganfod Kutchibok.
Ein gorchwyl oedd ail gyflwyno’r cynnyrch fel brand moethus a ellid ei farchnata i westai boutique a gwestai gwely a brecwast drud. Cychwynodd Kutchibok ar y dasg gan ein cyflwyno, dechreuwyr llwyr, i’r math newydd yma o farchnata mewn ffordd effeithiol, cyfeillgar, ymarferol; yn datblygu’n meddyliau cyfyngedig i ffurfio’r dyluniadau arloesol, deniadol a welwch yn ein cynnyrch ni heddiw.
Mae’r labeli newydd wedi ein galluogi ni i gyrraedd y cwsmeriaid a fyddai ond yn prynu brandiau drud, moethus fel arfer, ac ‘rydym wedi gweld cynnydd yn nifer ein cwsmeriaid a’n trosiant ers i’r dyluniadau newydd ymddangos ar y farchnad. Mae’r nwyddau hefyd wedi ennill gwobr dylunio Ewropeaidd.
Byddem yn argymmell Kutchibok yn gryf ar gyfer eich anghenion dylunio”
Mike Hill
Rheolwr Gyfarwyddwr
Myddfai Trading Company








