Mae Gwlad y Chwedlau yn eich tywys ar siwrnai hudolus at galon ein hunaniaeth, y chwedlau ar cymeriadau sydd wedi ein creu. Straeon am forladron, gwrthryfelwyr, smyglwyr a chariadon trist yn ogystal chysylltiadau Cymru rhai o hoff lyfraur byd mae rhain i gyd yn dod at ei gilydd mewn un man, ar lein, am y tro cyntaf, diolch i prosiect ar y cyd yn cael ei arwain gan Llenyddiaeth Cymru.
Fel y prif bartner creadigol, ni oedd yn gyfrifol am y brand newydd, dyluniad ac adeiladwaith y wefan, yn arwain ymwelwyr ar daith chwedloniaeth ryngweithiol trwy Gymru. Nawr gall bawb syn caru llyfrau ac syn ymweld
Chymru drefnu taith wedi ei seilio ar eu hoff lyfrau a chwedlau. Roeddem wrth ein bodd cael cydweithio gyda Pete Fowler, sydd wedi creu cyfres o luniau atgofus ar gyfer pob thema, a map sydd ar gael ar y wefan.
Mae’r map-straeon newydd yma o Gymru yn dadorchuddio trysorau cudd: o gestyll llawn ysbrydion a straeon cariad trist; i anghenfilod dirgel a gwrthwynebwyr arwrol. Fe’i rhenir yn 10 thema cyffrous – Bydoedd Dyfrllyd, Brwydron, Iaith Fyw, Chwedloniaeth a Thraddodiad, Tirluniau ysbrydol a sanctaidd, y Brenin Arthur, Plentyndod, Ysbrydion, Esgidiau Trwm a Bara, a Gwrthryfelwyr – yn cynnig llefydd i’r ymwelwyr i fwyta, yfed, chwilota, ac aros; wedi eu dewis o fap neu thema. Gyrrir y deithlen fel ebost – yn llunio’u antur llenyddol eu hunain.
Cadwom draw oddiwrth ffotograffiaeth stoc dinod a gwefannau twristiaeth, a chanolbwyntio yn lle ar edrychiad a theimlad cyfriniol, yn adleisio’r amrywiaeth diwylliannol a gynnigir gan Gymru. ‘Roedd angen gwefan gyfoes, hawdd ei lywio, a fyddai’n galluogi defnyddwyr i ganfod yn gyflym mannau daearyddol, diddorol drwy thema neu ranbarth.
Cedwid mordwyo’r safle yn ln a greddfol. Adeiladwyd hwn oll yn hyblyg ar gyfer gofynion gwahanol ddyfeisiadau, gan sicrhau fod y safle ar ei orau ac wedi ei brofi ar draws ystod o sgrinau o wahanol faint, cyn ei lansio. Trwy brofion defnyddwyr trylwyr ar draws porwyr a fersiynau dilynol, mae gennym safle a fydd yn perfformio’n dda o dan bwysau a straen y defnyddiwr cyfoes, hyblyg.
Dr Bronwen Price,
Pennaeth Datblygu, Llenyddiaeth Cymru












