Ebrill 13, 2017

Gwlad y Chwedlau

Gweler heddiw lansiad ein gwefan newydd ar gyfer Gwlad y Chwedlau prosiect  a ddadblygwyd gan Llenyddiaeth Cymru, yn cael ei ariannu gan Visit Wales,  sydd yn arddangos y gorau o lenyddiaeth, chwedlau a mytholeg Cymru, yn yr union  llefydd a’u creodd a’u hysbrydolodd nhw. Gwaith ffrwyth sawl mis o gydweithio gyda Llenyddiaeth Cymru a’r arlunydd talentog Pete Fowler – a adnabyddir orau am gloriau albwm eiconig y Super Furry Animals.

Mae Gwlad y Chwedlau yn eich tywys ar siwrnai  hudolus at galon ein hunaniaeth, y chwedlau a’r cymeriadau sydd wedi ein creu. Straeon am forladron, gwrthryfelwyr, smyglwyr a chariadon trist – yn ogystal a chysylltiadau Cymru a rhai o hoff lyfrau’r byd  – mae rhain i gyd yn dod at ei gilydd mewn un man, ar lein, am y tro cyntaf, diolch i  prosiect ar y cyd yn cael ei arwain gan Llenyddiaeth Cymru

Fel y prif bartner creadigol ,  ni oedd yn gyfrifol am y brand newydd, dyluniad ac adeiladwaith y wefan, yn arwain ymwelwyr ar daith chwedloniaeth ryngweithiol trwy Gymru. Nawr gall bawb sy’n caru llyfrau ac sy’n ymweld a Chymru drefnu taith wedi ei seilio ar eu hoff lyfrau a chwedlau. Roeddem wrth ein bodd cael cydweithio gyda Pete Fowler, sydd wedi creu cyfres o luniau atgofus ar gyfer pob thema a map sydd ar gael ar y wefan.