Perlau Cudd

10

Ffordd wych o ddechrau’r Flwyddyn Newydd, mae kutchibok wedi cael ei arddangos yng nghylchgrawn DRUM fel un o berlau cudd Prydain.  Mae’r rhestr yn cynnwys 15 asiantaeth ddylunio, ac mae’n crynhoi rhestr hir o asiantaethau a luniwyd ar sail cyfuniad o brofiad a mewnwelediad gan Drum, RAR ac MiNetwork. Gweler yma.

Hwyl 2011

computer

Blwyddyn lwyddiannus arall i Kutchibok !! Diolch i bawb sydd wedi cydweithio gyda ni yn ystod y flwyddyn – lot o hwyl. Mae’n bryd am hoe fach, ac fe edrychwn ymlaen at weithio gyda chi yn 2012. Busnes fel arfer ar Ionawr 3ydd! Mwynhewch y Nadolig, Kutchibok

H’mm, Y Sefydliad Barddoniaeth

H'mm

Mae ein cleient H’mm, Y Sefydliad Barddoniaeth yn lansio’i frand yn swyddogol ar Ragfyr 7ed ar lwyfan y Glanfa yng Nghanolfan Y Mileniwm, pan fydd beirdd blaenllaw yn darllen eu gwaith mewn noson o eiriau a cherddoriaeth. Dewch draw i’r digwyddiad gwych hwn AM DDIM @ 6.30-8.30pm!! Rhagor o wybodaeth.

Cacennau Siocled Yn Ennill Gwobr

Kate_Jenkins_Gate

Mae’r mis hwn wedi bod yn un llwyddiannus i’n clientiaid ni. Yn ogystal â llwyddiant cwrw Celt, mae cacennau siocoled Gower cottage yn mynd o nerth i nerth hefyd. Maent wedi ennill Gwobr Fwyd yr Observer am y manwerthwr annibynol gorau yng Nghymru – a hynny am yr eildro ac hefyd wedi ennill seren aur yng Ngwobrwyon y Great Taste eleni eto, da iawn Kate a’r tîm – newyddion gwych!

Gwir Flas 2011

Celt_Gold Award

Roeddem yn falch iawn o weld bod ein cleient The celt Experience wedi ennill gwobr aur am eu cwrw euraidd yng nghystadleuaeth Gwir Flas yn Llandudno yn ddiweddar, da iawn cwmni Celt.

WOMEX 2013

Womex

Braf clywed bod WOMEX – cyfarfod blynyddol sector gerddorol y byd – yn dod i Gaerdydd yn 2013. Arweiniwyd y cais i groesawu WOMEX gan ein client – Cerdd Cymru:Music Wales. Dyma gipolwg ar y brandio a ddyluniodd Kutchibok ar eu cyfer. Darllenwch fwy. Delwedd gyda diolch i Mission Photographic.